P-05-828 - Rhagdybiaeth o blaid Ysgolion Gwledig: Gohebiaeth – Deisebydd at y Cadeirydd, 22.02.19

 

Ysgrifennaf atoch ar ran Cymdeithas rieni ac athrawon Ysgol Gymuned Bodffordd. Hoffwn drafod ein deiseb a fyddwch yn ei drafod ar y 5ed o Fawrth. Ein meddylfryd fel rhieni yw bod Cyngor Ynys Môn wedi anwybyddu ein gofynion fel rhieni, ysgol a chymuned yn eu penderfyniad i gau ein hysgol a hynny mond i leddfu problem ysgol orlawn sy'n dref Llangefni.

 

Rydym yn cwestiynu pam fod y gweinidog addysg wedi cyhoeddi’r Cod Trefniadaeth Ysgolion os nad yw hi gyda'r hawl i ymyrryd, na chwaith i gwestiynu awdurdodau lleol ar eu penderfyniadau sy'n mynd yn erbyn ewyllys gymuned gyfan. Mae hyn yn hollol amlwg yn ein deiseb gref o 5000+ lofnodion, sut mae cyngor Môn yn gallu anwybyddu hyn? Sut mae’r gweinidog addysg yn gallu anwybyddu hyn?

 

Rydym yn erfyn ar Kirsty Williams i ddefnyddio ei "grym cyffredinol i gyfarwyddo'r Awdurdod Lleol" i dynnu'n ôl eu hysbysiad i gau Ysgol Gynradd Bodffordd a chaniatau i ni fel rhieni i ddewis anfon ein plant i'r ysgol newydd yn Llangefni neu eu cadw yma yn Ysgol Bodffordd.

 

Yr eiddoch yn gywir,

Llinos Thomas Roberts, 

ar ran Cymdeithas rieni ac athrawon Ysgol Gymuned Bodffordd